Site icon Archifau Cymru

Gwaith Da yn Cadw’r Hyn sydd Dda: Cadw Deddfau Hywel Dda yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru

Diwrnod Cadwedigaeth Ddigidol y Byd

Bob blwyddyn, mae’r Glymblaid Cadwedigaeth Ddigidol yn cynnal Diwrnod Cadwedigaeth Ddigidol y Byd gyda’r nod o dynnu sylw at y materion strategol, diwylliannol a thechnolegol cymhleth sy’n gysylltiedig â sicrhau mynediad parhaus at gynnwys digidol. Mae eleni wedi dwyn sylw yn benodol at y ddibyniaeth fyd-eang ar wybodaeth ddigidol, seilwaith a chysylltedd ac mae’r thema eleni: Digidau: er Daioni, yn adlewyrchu effaith gadarnhaol cadw a darparu mynediad at gynnwys digidol dibynadwy. Mae’r thema hon yn cyd-fynd yn berffaith ag ymagweddau arloesol y Llyfrgell mewn cadwraeth draddodiadol, digido a chadwraeth ddigidol sy’n integreiddio i sicrhau bod Llawysgrif Boston o Gyfreithiau Hywel Dda yn hygyrch nawr ac yn y dyfodol.

Llawysgrif Boston

Prynwyd Llawysgrif Boston yn 2012 gan y Llyfrgell gyda chymorth Cronfa Dreftadaeth y Loteri, Cyfeillion y Llyfrgelloedd Cenedlaethol a Llywodraeth Cymru. Mae’r llawysgrif, a ysgrifennwyd yn Gymraeg, yn dyddio o tua 1350 ac mae’n cofnodi deddfau brodorol Cymru, y credwyd iddynt gael eu codeiddio gan Hywel Dda. Mae’n destun allweddol yn hanes cyfraith Cymru ac mae’n rhoi cyfle inni dreiddio i fywyd diwylliannol a hunaniaeth Cymru. Fe’i defnyddiwyd fel testun gwaith, gan gael ei anodi gan Farnwr yn Ne Cymru, a’i gariodd o gwmpas yn ei boced. Erbyn y 19eg ganrif, roedd y llawysgrif wedi cyrraedd America ac roedd yng ngofal Cymdeithas Hanesyddol Massachusetts yn Boston, ar ôl cael ei chludo yno gan ymfudwr mae’n debyg.

Datgelodd asesiad cadwraeth fod y llawysgrif yn fregus iawn, gyda llawer o rwygiadau a holltiadau, gan olygu na ellid ei thrafod heb y risg o ddifrod pellach. Penderfynwyd dad-rwymo’r gyfrol a digideiddio’r cynnwys, a fyddai’n galluogi ail-rwymo’r gwreiddiol, creu copïau ffacsimili a mynediad digidol.

Llif gwaith o un pen i’r llall

Mae llif gwaith cymhleth wedi’i ddatblygu i reoli’r broses ddigido, o ddethol i ddarparu mynediad a storio. Sicrhaodd ymarfer meincnodi fod y llawysgrif yn cael ei digido yn unol â’r safonau a’r fethodoleg a sefydlwyd ar gyfer digido deunyddiau llawysgrif. Nodwyd y protocolau ar gyfer sganio, gan gynnwys y wybodaeth hanfodol er mwyn cipio delwedd, sef , priodoli enw ffeil, proses trosi, a phenodi fformatau ffeiliau ar gyfer ffeiliau meistr a deilliadol.

Y llif gwaith

Digido’r llawysgrif

Hwyluswyd y broses sganio trwy’r dadrwymo, gan alluogi cipio pob ffolio yn gyfan, heb yr angen i ddad-ystofi (de-warp). Cynorthwyodd hyn gyda’r broses o ymestyn ymylon allanol y memrwn yn ddigidol. Gellid sganio pob ffolio gwastad trwy ddefnyddio system sganio llinell, yn hytrach na’r dull arferol o ddefnyddio camera a chrud un siot . Trwy ddefnyddio’r dull hwn, gellid cipio’r delweddau ar eglurdeb uwch nag y byddai arferion gwaith normal yn ei ganiatáu ac roedd mwy o gysondeb o ran goleuo, a chywirdeb lliw gwell.

Cynhyrchodd y broses sganio ffeiliau meistr TIFF, gyda’r deilliadau JP2 yn cael eu cynhyrchu wrth amlyncu i Fedora, y System Rheoli Asedau Digidol. Cynhyrchwyd y ffeiliau METS, a oedd yn cynnwys metadata disgrifiadol a strwythurol wrth amlyncu. Storiwyd y prif ffeiliau TIFF yn yr Archif Ddigidol. Mae camau cadwraeth, gan gynnwys gwirio checksum , monitro sefydlogrwydd a chynllunio cadwraeth yn sicrhau bod y cynnwys digidol yn cael ei gadw.

Creu’r ffacsimiliau

Budd arall o’r broses dadrwymo a sganio oedd y cyfle i’r Llyfrgell ddangos ei thechnegau arloesol wrth greu ffacsimiliau, sydd bron yr un ffunud â’r rhai gwreiddiol. Cydiwyd copïau printiedig o’r dail wedi’u sganio, ar bapur archifol o ansawdd uchel, a’u pastio gefn wrth gefn i ffurfio ffolios a chydiadau. Sicrhaodd y fformat cefn wrth gefn hwn y byddai’r ffacsimili yr un trwch â’r llawysgrif wreiddiol. Arweiniodd y dechneg arloesol o efelychu memrwn trwy ymestyn y papur â llaw yn anwastad, tra bod y dail yn dal i fod yn llaith, at ymddangosiad crychiog dilys.
Rhwymwyd y ffacsimiliau yn yr un modd â’r gwreiddiol ac fe’u defnyddiwyd at ddibenion addysgu ac allgymorth, gan ganiatáu mynediad am gyfnod estynedig i’r llawysgrif, gan ddiogelu’r gwreiddiol.

Allwch chi weld y gwahaniaeth!

Gellir gweld y llawysgrif ddigidol ar wefan y Llyfrgell. Mae’r delweddau’n cael eu gweini trwy faniffest IIIF, wedi’i gysylltu â’r ffeiliau deilliadol a gedwir yn Fedora, sy’n cyflenwi’r Gwyliwr Cyffredinol (Universal Viewer). Gellir newid y delweddau, gyda’r gallu i chwyddo rannau o’r llawysgrif, troi’r tudalennau a chael amrywiaeth o olygfeydd. Mae’r metadata disgrifiadol ar gael gyda’r delweddau er mwyn ddarparu gwybodaeth gyd-destunol.

Trwy ei dull integredig o warchod ac ymestyn mynediad i un o drysorau mwyaf arwyddocaol Cymru, mae’r Llyfrgell yn sicr wedi defnyddio ei digidau, yn ffigurol ac yn llythrennol, er lles ac i bawb.

Sally McInnes, Pennaeth Gofal Casgliadau a Chasgliadau Unigryw
Llyfrgell Genedlaethol Cymru

Exit mobile version