Mae darn hynod o brin o hanes Du Cymru wedi’i gyhoeddi ar lein. Cyhoeddodd William Hall, caethwas a ddihangodd o America, hanes ei fywyd o Gaerdydd ym 1862.
Ym 1862, cyhoeddodd William Hall ei “Naratif Bersonol”, sy’n olrhain hanes brawychus ei enedigaeth mewn caethiwed, a’i daith hirfaith o Dennessee i Gaerdydd. Ynddo, mae Hall yn disgrifio cael ei werthu i berchnogion planhigfeydd, yn manylu sut y ceisiodd ddianc caethwasiaeth ar amryw o achlysuron, a’n trafod ei brofiadau yn cwrdd â chaethweision eraill.
Mae’r ddogfen dan ofal Casgliadau Arbennig ac Archifau Prifysgol Caerdydd, a credir mai dyma un o ddau gopi sydd wedi goroesi yn fyd-eang.
Ysbrydoli’r Genhedlaeth Nesaf o Ymchwilwyr
Mae’n bamffled bychan, bregus – ac mae ar gael ar lein i unrhyw un ei ddarllen a’i lawrlwytho.
Medd Tracey Stanley, Llyfrgellydd Prifysgol Caerdydd: “Mae’r ddogfen unigryw yma’n rhan mor bwysig o hanes Du Caerdydd, a Chymru, a ro’n ni eisiau ei gwneud ar gael i bawb.”
“’Dyn ni’n dal i ddarganfod mwy am fywyd William Hall – rydym ni’n gobeithio y bydd cyhoeddi’r ddogfen ar lein yn ysbrydoli cenhedlaeth newydd o ymchwilwyr, fydd yn parhau i archwilio hanes pobl Ddu yng Nghymru.”
Rhannu Gweithiau Prin gan Awduron Du
Fe noddwyd y ddogfen yn wreiddiol gan fynychwyr capel Wesleaidd yng Nghaerdydd, sy’n taro goleuni ar y gefnogaeth oedd i’r mudiad Diddymu Caethwasiaeth yn y ddinas ar y pryd.
Oherwydd natur fregus y ddogfen, fe fyddai’n cael ei darllen fel rheol dan amodau arbenigol yng Nghasgliadau Arbennig ac Archifau’r Brifysgol. Mae’r cyfnod clo wedi peri sialens i ymchwilwyr sy’n defnyddio llyfrau prin – a mae technoleg ddigidol wedi golygu y gall peth o’r gwaith hwn barhau.
“Mae ein staff wedi bod yn gweithio’n galed i gefnogi myfyrwyr ac ymchwilwyr yn ystod y cyfnod anodd hwn. Yma yng Nghasgliadau Arbennig ac Archifau, mae hyn wedi golygu rhoi rhai dogfennau unigryw ar lein, a allai fod yn rhy brin neu fregus i’w hymchwilio yn y cnawd ar hyn o bryd.” meddai Alan Vaughan Hughes, Pennaeth Casgliadau Arbennig ac Archifau Prifysgol Caerdydd.
“Mae gweithiau hanesyddol gan awduron Du – fel gwaith William Hall – yn haeddu cynulleidfa ehangach, a ‘dyn ni’n falch o allu rhannu’r gwaith hwn gyda phawb trwy’r Internet Archive. Rydym ni hefyd yn ddiolchgar iawn i’r Athro William Jones a Dr David Wyatt am eu gwaith yn ymchwilio a chodi ymwybyddiaeth o’r ddogfen werthfawr hon.”
Gallwch ddarganfod mwy am hanes William Hall, a’r mudiad Diddymu yng Nghaerdydd yn Canu Caeth, a olygwyd gan Daniel G Williams.
Copi llawn o Naratif Bersonol William Hall i’w lawrlwytho:
https://archive.org/details/williamhall
Casgliadau Arbennig ac Archifau
Prifysgol Caerdydd