Site icon Archifau Cymru

Diwrnod Rhyngwladol Archifau 2020

Diwrnod Rhyngwladol Archifau Hapus! Heddiw rydym yn dathlu cyfoeth casgliadau archifol, a phwysigrwydd gwaith archifwyr a sefydliadau archifol ledled y byd.

Fel rhan o ymgyrch Archwilio Eich Archif, recriwtiodd Archifau Cymru ‘Llysgenhadon Archif’ i rannu eu profiadau o ddefnyddio casgliadau a gwasanaethau archifau at ddefnydd proffesiynol a phersonol. Dyma beth oedd ganddyn nhw i’w ddweud:

David Loyn, cyn ohebydd tramor gyda’r BBC, newyddiadurwr arobryn, awdur ac Uwch Gymrawd Gwadd yng Ngholeg King’s, Llundain:

“Am flynyddoedd lawer fel newyddiadurwr roeddwn yn ysgrifennu’r hyn a elwir weithiau’n ddrafft cyntaf hanes. Bellach, fel awdur a hanesydd, rwy’n gyson ddiolchgar i’r holl bobl a gadwodd “ddrafftiau cyntaf” yn y gorffennol mewn archifau – dyddiaduron, lluniau, telegramau, nodiadau, llythyrau, mapiau. Nid oes unrhyw beth mor werthfawr â nodyn a ysgrifennwyd ar y pryd i fwrw goleuni ar benderfyniadau a wnaed gan bobl nad oeddent yn gwybod beth fyddai’n digwydd nesaf.

Y darganfyddiadau gorau yn aml yw’r rhai annisgwyl – y cymeriadau sy’n dod yn fyw o nodiadau, y cyfeiriad sy’n gwneud cysylltiad nad oedd yn hysbys o’r blaen, y cofnod dyddiadur sy’n sbarduno trywydd ymchwil newydd. Adrodd straeon am bobl yw hanes yn ei hanfod, ac archifau yw’r deunydd crai ar gyfer hyn”

 

Lleucu Gruffydd, Cynhyrchydd rhaglen deledu S4C ‘Cynefin’ i Rondo Media

“Rwy’n Gynhyrchydd ar y gyfres Cynefin. Cyfres rwy’n falch ofnadwy o fod yn rhan ohoni ac sy’n teithio’r wlad yn dod i adnabod gorffenol, presenol a dyfodol amryw o ardaloedd. Mae archifau a llyfrgelloedd Cymru yn dal i fod yn ran anatod o fy swydd ac yn amhrisadwy nid yn unig yn fy ymchwil ond i ychwanegu haen ychwanegol i’r eitemau hefyd. Mae lluniau wastad yn dod a stori yn fyw ac yn allweddol i greu darlun o’r hyn a fu.

Heb os, mi fyddai rhaglenni hanesyddol megis Cynefin yn diodda’n fawr heb archifau a fy ngwaith i’n llawer iawn anoddach heb gefnogaeth Archifau a Llyfrgell Cymru. Mae fy nyled yn fawr iddyn nhw.

 

Richard Ireland; Hanesydd Cyfreithiol, Awdur, ac Uwch Ddarlithydd Emeritws yn Adran y Gyfraith a Throseddeg, Prifysgol Aberystwyth:

“Mae gweithio gyda ffynonellau archifol yn wych. Mae’n ffordd o gyffwrdd y gorffennol yn llythrennol, gan ddangos nad eiddo pobl eraill sy’n ysgrifennu llyfrau yn unig yw hanes, ond yn hytrach rhywbeth sydd ar gael yn agored i bawb. Mae’n rhoi cyd-destun i hanes teuluoedd a thai a gall danio meysydd cyfan o ymchwil annibynnol.

Trwy archwilio archifau rydym yn agor drysau i’r gorffennol ac yn gweld pethau rhyfeddol.”

 

Ioan Lord, awdur ifanc a hanesydd diwydiannol.

“Mae’r defnydd o archifau, yn wahanol i ddefnyddio ffynonellau eilaidd, yn darparu cyfle i ddarganfod gwybodaeth newydd, nad sydd wedi cael ei nodi gan haneswyr eraill o’r blaen. Yn ogystal, ceir gysylltiadau annisgwyl gydag agweddau eraill o’r maes ymchwil. Drwy ddefnyddio ffynonellau cynradd mewn archifau, gellir adeiladu dadleuon a safbwyntiau gwreiddiol sy’n wahanol i’r rheiny sydd wedi cael eu gwneud gan haneswyr o’r blaen.

Drwy fy nefnydd o archifau ledled yr wlad, rwyf wedi llwyddo i adeiladu dadleuon a thorri tir newydd yn fy ymchwil drwy ganolbwyntio ar agweddau o hanes diwydiannol Cymru nad sydd erioed wedi cael eu hastudio gan haneswyr o’r blaen.”

 

Cyngor Archifau a Chofnodion Cymru,
Mehefin, 2020

 

Exit mobile version