Fel rhan o’i ymdrechion parhaus i godi ymwybyddiaeth o heriau niferus cadwedigaeth ddigidol, mae Archifau Ynys Môn wedi creu arddangosfa i ddangos pa mor gyflym y mae technoleg newydd yn cael eu creu a’u rhoi o’r neilltu.

Gan gymryd y syniad o diwtorial cadwedigaeth ddigidol Llyfrgell Prifysgol Cornell https://dpworkshop.org/dpm-eng/oldmedia/chamber.html mae’r eitemau sy’n cael eu harddangos yn ein hatgoffa; er bod llawer o’n gwybodaeth ddigidol wrth law o hyd, nid ydy’n bellach yn ddarllenadwy oherwydd bod darllenydd y cyfryngau (y caledwedd neu’r feddalwedd) wedi’i golli neu wedi darfod. I bob pwrpas, mae’r wybodaeth hon yn ‘gaeth’ o fewn ei fformat ei hun. Mae hyn yn wir ar gyfer cofnodion sydd wedi’u digideiddio ac ar gyfer cofnodion sy’n tarddu ar ffurf electronig (digidanedig).

Dywedodd yr Uwch Archifydd, Hayden Burns “Rydym wedi creu’r arddangosfa i atgoffa ein hadneuwyr fod cynnwys digidol nid yn unig yn agored i bydredd yn y cyfryngau, ond hefyd i fygythiadau darfodiad digidol. Os ydych chi’n storio’ch cofnodion teulu pwysig ar gyfryngau digidol yna mae angen i chi ddechrau meddwl sut y bydd rhain yn hygyrch yn y dyfodol.”

Mae gwybodaeth ddigidol yn cael ei chyfryngu gan dechnoleg.

Tra efallai na fydd y cyfrwng y mae eich data wedi’i storio arno yn methu, yr hyn sy’n sicr yw bod technoleg yn newid mor gyflym, hyd yn oed os yw’r cyfrwng yn cael ei gadw mewn cyflwr perffaith, efallai na fyddwch yn gallu cael mynediad i’r wybodaeth mae’n ei ddal.  A fydd gennych y dechnoleg i ddefnyddio rhai o’r rhain mewn 20-30 mlynedd?

Record Ffonograff: Dyddiadau defnydd tua: diwedd 19ef Ganrif – 1990au?

Disg Hyblyg 5.25″: Dyddiad defnydd tua: 1972 – canol 1980au

Disg Hyblyg 3.5″: Dyddiad defnydd tua: 1982 – dechrau 2000au

Tâp sain rholyn i rolyn: Dyddiad defnydd tua: dechrau 1940au – dechrau 1980au

Casét: Dyddiad defnydd tua: 1975 – 1978

Tâp Fideo VHS: Dyddiad defnydd tua: 1976 – 2008

CD-ROM: Dyddiad defnydd tua: 1984 – diwedd 2010au

DVD-ROM: Dyddiad defnydd tua: 1997- diwedd 2010au

Cof Bach: Dyddiad defnydd tua: 1998 – heddiw

Cerdyn SD: Dyddiad defnydd tua: 2000 – heddiw

Gallwch weld yr arddangosfa yn Archifau Ynys Môn, Llangefni, LL77 7JA.

Leave a Reply