Mae Gwasanaeth Archifau Gwynedd yn cymryd rhan yng nghynllun ‘Welfare, Conflict and Memory during and after the English Civil Wars, 1642-1700’ a ariennir gan yr Arts and Humanities Research Council dros gyfnod o 4 mlynedd.  Nod y cynllun yw digido a thrawsysgrifio pob deiseb (a thystysgrifau cysylltiedig) ar gyfer pensiynau neu gymorth i’r Sesiynau Chwarter yng Nghymru a Lloegr, a oedd yn ymwneud â chlwyfau a phrofedigaethau a ddioddefodd y deisebydd o ganlyniad i’r Rhyfeloedd Cartref.

Mae casgliad Llys y Sesiwn Chwarter a gedwir yn Archifdy Caernarfon yn dyddio yn ôl i 1541, ac felly yn cynnwys deunydd yn ymwneud a’r Rhyfel Cartref.  Yn ogystal â’r deisebau hyn, mae’r casgliad yn cynnwys llythyrau wedi eu harwyddo gan Siarl I a hefyd Oliver Cromwell.  Hefyd mae’r achosion a ddaw gerbron y llys yn dangos effaith polisïau Cromwell ar Sir Gaernarfon.

xqs 1651.1a Quarter Sessions Gywnedd Archives (1)
XQS1651/1
Deiseb Jane verch Hugh, Jane verch Humphrey a Jane Edwarde, gweddwon, gan nodi bod Eglwyswyr a Goruchwylwyr Tlodion Caernarfon wedi gwrthod cynhlaiaeth, a gofyn am orchymyn gan Ynadon Heddwch. Dyddiedig Medi 6 1650.

Yn 1654 daw tystiolaeth gerbron y llys gan Morris ap William David o Lanfihangel y Pennant yn cyhuddo Hugh ap William ap Evan a’i wraig Ellin o gynnal drama yn eu cartref Derwyn Fechan, Dolbenmaen.  Mae Morris ap William David yn egluro nad oedd y tri actor oedd yn perfformio yn y ddrama yn lleol ond fe ddisgrifir fod yr actorion wedi newid eu gwisgoedd sawl gwaith yn ystod y perfformiad, a bod un o’r actorion wedi gwisgo fel dynes.  Mae’n debyg fod Morris ap William David yn sbecian drwy’r ffenestr ac nid wedi ei wahodd i weld y ddrama!

Wrth gwrs nid oedd gan unrhyw un hawl i gynnal drama yn ystod cyfnod y Werinlywodraeth.  Roedd yn gyfnod o reolaeth llym gyda phobl yn barod i achwyn ar ei gilydd fel y gwelir yn nhystiolaeth Alban Roberts dyddiedig 1658.  Mae’n cyhuddo Robert Wynne, Pen y Caer o fygwth taro Jeffrey Parry, Rhiwddolion gyda gwn a hefyd ei regi dair neu bedair o weithiau gan ddweud ‘myn diawl’.

xqs 1653-4.34 Quarter Sessions Gywnedd Archives (1)
XQS1653-4/34
Deiseb Elizabeth Rushen, gweddw, Conwy i Mr Madren a gweddill y fainc ynghylch arian i dalu am ei thaith gyda’i 2 blentyn i Lundain i weld beth sy’n ddyledus iddi ar ôl i’w gŵr, milwr gael ei ladd gan gorporal. Dyddiedig Gorffennaf 15 1653.

Gan mai llys y Sesiwn Chwarter oedd yn gweinyddu’r sir cyn dyfodiad y Cynghorau Sir yn 1890 ceir pob math o gofnodion yn cynnwys amrediad o gamweddau o fân droseddau ac ymosodiadau, i orchmynion at blwyfolion i sicrhau eu bod yn atgyweirio’r ffyrdd a’r pontydd o fewn eu plwyf.  Mae’r casgliad yn hynod ddifyr ac yn rhoi cyfle i ddarganfod gwybodaeth am unigolion a chymunedau na fuasai wedi ei gofnodi yn unman arall.

Er enghraifft, anfonwyd gwybodaeth at yr Ustusiaid Heddwch yn 1566 yn son fod môr ladron o Loegr wedi cymryd llong o’r Iseldiroedd oedd yn llawn triog, siwgr, a chrwyn geifr tra ar ei ffordd o Barbary i Antwerp. Mae’n cyhuddo Evan ap Meredith a Richard ap Meredith o gynorthwyo’r môr ladron tra roedd y llong ger Ynys Sant Tudwal.  Hefyd yn 1577 cyfaddefodd Margaret ferch Ieuan ap David ap Madog o Ffestiniog ei bod wedi dwyn gwerth ceiniog o gaws ac yna yn cael ei chosbi drwy gael ei chwipio ac yna ei hoelio gerfydd ei chlust ym marchnad Caernarfon.

xqs 1655.57 Quarter Sessions Gywnedd Archives (1)
XQS1655/57
Deiseb John ap John Lewis, yn gofyn am ryddhad gan nad yw’n gallu darparu ar gyfer ei hun, gan ei fod yn filwr tlawd ac oedrannus wedi gwasanaethu am naw mlynedd yn Iwerddon a’r Alban. Heb ddyddiad.

Ni fuasai’r unigolion hyn wedi ysgrifennu am eu profiadau ond gan fod y casgliad wedi goroesi ceir gipolwg i orffennol unigolion a chymunedau cyfan y Sir.  Mae bod yn rhan o’r cynllun hwn yn gyfle i dynnu sylw at elfen o’r casgliad gan obeithio y bydd yn fodd i ddenu mwy i gael golwg ar drysorau’r Sesiwn Chwarter.

Leave a Reply