Mae disgyblion ysgol gynradd wedi bod yn gweithio ar brosiect celf arbennig i ddathlu amrywiaeth a chynhwysiant yn Ynys Môn.

Ymunodd plant o Ysgol Gynradd Amlwch ag Archifau Môn, Oriel Môn ac artist blaenllaw o Ogledd Cymru, Jwls Williams, i olrhain bywydau dau o deuluoedd Iddewig pwysig.

Fe ymfudodd y teuluoedd Pollecoff a Stein o Rwsia i Ynys Môn tua diwedd y 1800au. Gan setlo yng Nghaergybi ac Amlwch, sefydlodd y ddau deulu fusnesau llwyddiannus y mae atgofion melys ohonynt hyd heddiw. Erbyn i’w siopau gau am y tro olaf, roedd teuluoedd Pollecoff a Stein yn uchel eu parch yn y cymunedau ble yr oeddynt yn byw.

Cafodd y prosiect ei ariannu drwy Gynllun Cymorth Grant Llywodraeth Cymru ar gyfer Achrediad Cyngor Archifau a Chofnodion Cymru 2019/20.

Dywedodd Uwch Archifydd Ynys Môn, Hayden Burns, “Fe wnaeth y plant fwynhau yn fawr iawn eu hamser yn gweithio ar y prosiect hwn gyda Jwls Williams a Lia Griffith, Cydlynydd Dysgu ac Ymgysylltiad Oriel Môn. Mae dros 70 o blant wedi cael y cyfle i ddysgu mwy am eu cymunedau ac olrhain hanes y teuluoedd Pollecoff a Stein drwy ddefnyddio dogfennau archifol ac arteffactau o amgueddfa.

“Yn ogystal, fe wnaethant greu gwaith celf dwyieithog yn seiliedig ar eu profiadau eu hunain ac wedi’i ysbrydoli gan yr archifau. Roedd eu gwaith yn cynnwys cyfres o faneri dehongliadol cywrain sy’n deyrnged liwgar i’r teuluoedd ac yn adrodd eu stori.”

Mae eu gwaith celf, sy’n cael ei arddangos ar hyn o bryd yn adeilad yr Archifdy yn Llangefni, yn edrych ar y modd y daeth y teuluoedd yn rhan o’r gymuned leol gan lwyddo i sefydlu busnesau llwyddiannus ar draws y rhanbarth.

Agorwyd yr arddangosfa wythnos diwethaf (Dydd Iau, 7 Tachwedd) gan Gadeirydd Cyngor Ynys Môn, y Cynghorydd Margaret Roberts.

Dywedodd y Cynghorydd Roberts, “Mae hon yn arddangosfa wych sy’n croniclo hanes bywyd y teuluoedd Pollecoff a Stein. Daeth y ddau deulu’n rhan bwysig o’u cymunedau eu hunain, aethant ati i ddysgu Cymraeg a chawsant groeso gan eu cymdogion newydd.”

“Rhaid llongyfarch y plant a phawb sydd wedi eu helpu gyda’r prosiect hwn. Mae’n dathlu ein hanes lleol ond hefyd yn rhoi gwers ar bwysigrwydd goddefgarwch, amrywiaeth a chroesawu pobl o bob cefndir.”

Yn ogystal, bydd gwaith y disgyblion yn cael ei arddangos yn eu hysgol ac Oriel Môn cyn dychwelyd i’r Archifdy ar gyfer ei arddangos yno yn barhaol.

Leave a Reply