“City and College should stand, shoulder to shoulder, facing the problems of life together”
Sgrifennwyd y geiriau yma ym 1906, gan un o aelodau’r gymuned addysg radical Annedd Prifysgol Caerdydd. 113 mlynedd yn ddiweddarach, mae’n ddisgrifiad da o amcan ein rhaglen ymgysylltu dinesig – sef darganfod ffyrdd y gall llyfrgelloedd ac archifau Prifysgol Caerdydd gefnogi cymunedau sy’ tu hwnt i’n muriau.
Dros y flwyddyn ddiwethaf, ‘dyn ni wedi bod yn ymchwilio sut y gallwn ni wneud ein gwasanaethau a’n casgliadau yn fwy apelgar, hygyrch a defnyddiol i gynulleidfaoedd tu allan i academia.
Yn ystod yr haf fe dreialom ni nifer o raglenni arbrofol, i geisio creu cyfleoedd ar gyfer:
- Symbylu ymatebion
- Mwynhad
- Cysylltu pobl ag adnoddau
Dyma flas ar rai o’r gweithgareddau:
Dod ag Archif Edward Thomas i’r Senedd
Fel sefydliad academaidd, mae’n hynod bwysig i ni ddangos sut y gall archifau a llyfrgelloedd symbylu creadigrwydd a myfyrdod, yn ogystal ag ymchwil a dysg.
Fel rhan o Ŵyl Estyn yn Ddistaw Llenyddiaeth Cymru, ymunodd dosbarth o Ysgol Uwchradd Fitzalan â’r beirniad llenyddol Jafar Iqbal â ni. Fe archwiliom ni lythyrau a barddoniaeth y bardd Edward Thomas – gan drafod Iechyd Meddwl, Teulu a Gwrthdaro yn ei waith a chreu gwaith gwreiddiol, gan gynnwys barddoniaeth a beirniadaeth lenyddol.
Fe gyflwynom ni’r gwaith yma o flaen cynulleidfa groesawgar yn y Senedd rai wythnosau’n ddiweddarach. Cafodd pawb gyfle i ddweud eu dweud ar wal Senedd Ieuenctid Cymru (llai o waith cartre, mwy o garedigrwydd at ffoaduriaid), yn ogystal â thaith arbennig o amgylch y siambr.
Mae’n esiampl fechan o sut y gallwn ni fel llyfrgelloedd ac archifau symbylu gwaith newydd – a sut y gallwn gyweithio gyda sefydliadau fel Llenyddiaeth Cymru i sicrhau bod cyfle i rannu’r gwaith yna gyda chynulleidfa ehangach.
Ystafell Ddianc y Llyfrgell
Un o’n amcanion ni ar gyfer ein rhaglenni ymgysylltu dinesig yw i wneud yn siŵr bod cyfle i bobl fwynhau defnyddio ein llyfrgelloedd – i gynulleidfaoedd deimlo’n gyfforddus a hyderus yn defnyddio ein gwasanaethau. Mae’n allweddol, hefyd, i’n staff gael profiad o drio pethau newydd, tu hwnt i’r profiad arferol o weithio gyda myfyrwyr ac ymchwilwyr.
Datblygwyd y Stafell Ddianc fel ffordd o annog pobl ifanc i feddiannu’n llyfrgelloedd, i fwynhau eu harchwilio ac i fagu hyder yn defnyddio ein gwasanaethau.
Daeth ysgolion haf Campws Cyntaf atom ni i dreialu’r weithgaredd – gan ddatrys cyfres o bosau wedi’u cloi er mwyn ennill gwobr arbennig. Mae Campws Cyntaf yn darparu cyfleon i bobl ifanc â chyflyrau sbectrwm awtistiaeth, a phobl ifanc â phrofiad o’r sector Gofal Lles, felly dyluniwyd y weithgaredd fel bod modd ei haddasu yn ôl gofynion y grwpiau. Roedd y weithgaredd yn llwyddiannus iawn – fe fyddwn ni’n addasu a mireinio’r model gwaith ymhellach, gyda’r amcan o gynnig Ystafell Ddianc reolaidd ar gyfer ysgolion uwchradd.
Newyddion Ffug gyda JOMEC a Media Wales
Un o rinweddau mwya defnyddiol llyfrgelloedd ac archifau ydi’n gallu i ‘fatsho’ pobl gydag adnoddau. Fe ddatblygwyd y prosiect Newyddion Ffug i ehangu rôl y llyfrgell fel man cysylltu – gan geisio ateb galw yn ein cymuned trwy hwyluso mynediad at arbenigedd, profiadau ac adnoddau sydd ddim wastad ar gael i’r cyhoedd.
Fe weithiom ni gyda dosbarth Saesneg ac Astudiaethau’r Cyfryngau Fitzalan i greu prosiect a fyddai’n mynd â ni o’r stafell ddosbarth i ganol ystafell newyddion, i stiwdios darlledu ac i gampws newyddiaduraeth newydd sbon y brifysgol. Buodd staff JOMEC – sef Ysgol Newyddiaduraeth, y Cyfryngau a Diwylliant – a Media Wales yn hael iawn gyda ni, wrth i ni darfu ar eu diwrnod gwaith a chreu chydig o gynnwrf! Wrth weithio gyda Media Wales ar eu technegau holi, a dysgu sut y caiff gwybodaeth ei gasglu a’i wirio cyn ei gyhoeddi, paratodd y dosbarth ar gyfer holi’r cyhoedd. Yn JOMEC, fe edrychodd y dosbarth ar sgiliau ymchwil: sut i ddarganfod gwybodaeth o ansawdd da, a sut i lunio holiadur craff sy’n mynd i wraidd y pwnc dan sylw.
Ar ddiwrnod ola’r rhaglen, dyma ni’n mentro allan i’r byd ‘go iawn’, gan ddefnyddio’n sgiliau newydd i greu fideos, a holi’r cyhoedd am eu hagweddau nhw tuag at y cyfryngau. Oherwydd creisis bws mini, fe gawsom drip annisgwyl i Archifau Morgannwg – diolch yn fawr i’w staff am ein croesawu ar y funud ola.
Y tymor nesa, fe fyddwn ni’n cwrdd eto ac yn cyd-greu adnodd ddigidol yn defnyddio’n cyfweliadau a’r hyn ddysgom ni yn ystod ein gweithdy – y gobaith yw y bydd pob ysgol yng Nghymru yn medru manteisio ar beth ddysgom ni, wrth i ni rannu’r adnodd trwy blatfform HWB Llywodraeth Cymru.
Ymlaen at y dyfodol
Mae hi wedi bod yn haf prysur, ond rhan o’r pictiwr yr hwn – dim ond un o’n cynulleidfaoedd yw ysgolion, felly fe fyddwn ni’n parhau i ddatblygu rhaglenni dros y blynyddoedd i ddod, fydd yn agor ein casgliadau i bobl ar hyd a lled Cymru.
Fe fyddwn ni’n cyhoeddi ein strategaeth Ymgysylltu Dinesig yn y flwyddyn newydd – os oes diddordeb ‘da chi mewn gweithio gyda ni, neu ddysgu mwy am ein ffordd o weithio, cysylltwch â ni: mailto:specialcollections@cardiff.ac.uk
Sara Huws,
Swyddog Ymgysylltu Dinesig,
Llyfrgelloedd ac Archifau, Prifysgol Caerdydd