Site icon Archifau Cymru

Cyflwyniad i Gasgliad Raissa Page yn Archifau Richard Burton, Prifysgol Abertawe

Ffotograffydd o Ganada oedd Raissa Page (1932-2011) a oedd yn byw yn y DU o’r 1950au hyd at ei marwolaeth. Cafodd yrfa gyntaf lwyddiannus fel gweithiwr cymdeithasol yn arbenigo mewn plant sy’n derbyn gofal, ond yng nghanol ei 40au gadawodd y proffesiwn hwn i fod yn ffotograffydd.

Rhoddwyd ei harchif i Brifysgol Abertawe yn 2014 ac ar hyn o bryd mae’n cael ei gatalogio ar brosiect blwyddyn trwy grant Ymddiriedolaeth Wellcome, a fydd yn cael ei gwblhau ddiwedd mis Hydref 2019. Mae’n cynnwys printiau ffotograffig, negatifau a thryloywderau yn bennaf, a gynhyrchwyd rhwng 1977 a 1993. Er mwyn rhoi syniad o raddfa’r casgliad, mae’n cynnwys dros 1500 o brintiau a 55000 o negyddion. Yn gyfan gwbl bydd tua 6000 o eitemau yn y catalog gorffenedig (a fydd ar gael trwy’r Archives Hub).

Ymhlith y pynciau yn y casgliad mae streic y glowyr ym 1984-5, gwersyll heddwch Comin Greenham, gofal cymdeithasol plant, pobl hŷn, a’r rhai yr effeithir arnynt gan iechyd meddwl gwael, ynghyd â delweddau o aseiniadau ffotograffig dramor – megis Israel, China, Cuba, ac UDA.

‘Dyma ni merched y dosbarth gweithiol’, gwragedd y Glowyr yn dod â Chynhadledd Genedlaethol 1af Menywod yn Erbyn Caeadau Pwll Sheffield i ben. Hawlfraint Adrianne Jones. Trwy garedigrwydd Archifau Richard Burton, Prifysgol Abertawe.
Pobl ifanc di-waith, ar gorymdaith Hawl i Weithio, Sgwâr Trafalgar, 1981. Hawlfraint Adrianne Jones. Trwy garedigrwydd Archifau Richard Burton, Abertawe.
Ymfudwyr yn gweithio yn chwarel cerrig, India, 1981-2 Hawlfraint Adrianne Jones. Trwy garedigrwydd Archifau Richard Burton, Prifysgol Abertawe.

Yn 1983, roedd Raissa yn aelod sefydlol o’r asiantaeth ffotograffig fenywaidd arloesol, Format, ac arhosodd gyda nhw nes iddi roi’r gorau i ffotograffiaeth fasnachol oherwydd afiechyd tua 1993, tua’r un pryd a wnaeth ffotograffiaeth ddigidol dechrau disodli’r fersiwn analog.

Treuliwyd ei hymddeoliad yng Nghymru. Mae wedi bod yn hynod fuddiol siarad â nifer o ffrindiau a chydweithwyr Raissa. Mae’r sgyrsiau wedi bod yn addysgiadol iawn wrth gynhyrchu’r catalog, ac mae wedi bod yn hyfryd gweithio gyda rhoddwr mor gefnogol a chymwynasgar.

Mae cefnogaeth gan academyddion o sawl disgyblaeth ar draws y brifysgol hefyd wedi bod yn ddefnyddiol iawn, ac nid oes amheuaeth y bydd y casgliad yn boblogaidd iawn gydag ymchwilwyr amrywiaeth eang o bynciau, yn ogystal ag unrhyw un sydd â diddordeb mewn ffotograffiaeth ddogfennol eithriadol o ddiwedd yr 20fed ganrif.

Raissa Page, dechrau’r 1980au, ffotograffydd yn anhysbys, gyda diolch i Archifau Richard Burton, Prifysgol Abertawe

Dilynwch y prosiect ar Twitter trwy https://twitter.com/RaissaPage ac Archifau Richard Burton trwy https://twitter.com/SwanUniArchives

Bydd sgwrs am y prosiect yn cael ei chyflwyno yn gynhadledd flynyddol Archif Menywod Cymru yn St Ffagan ar ddydd Sadwrn 5ed o Hydref.

Prif ddelwedd: Dawnsio ar y seilos, Comin Greenham, 1 Ionawr 1983. Hawlfraint Adrianne Jones. Trwy garedigrwydd Archifau Richard Burton, Prifysgol Abertawe.

David Johnston-Smith
Archifydd Prosiect, Archifau Richard Burton
Awst 2019

Exit mobile version