Site icon Archifau Cymru

Pobl Aberteifi: Ffotograffau John Turnor Mathias

Mae gan Archifau Ceredigion gasgliad helaeth o ffotograffau o stiwdio John Turnor Mathias, a oedd yn gweithredu yn nhref Aberteifi o’r 1860au ymlaen.

Tynnodd Mathias lun o bawb – neu felly mae’n ymddangos o’r cannoedd o brintiau sydd gennym yn y casgliad yma. Nid oedd ei waith yn gyfyngedig i’r stiwdio; mae yna hefyd ffotograffau o strydoedd yn y dref, ac o bobl ac anifeiliaid y tu allan.

Mae pawb eisiau llun â’r fuwch gorniog odidog hon!

Yn anffodus, mae’r bobl yn lluniau Mathias yn anhysbys yn bennaf. Mae rhai eithriadau, ond yn y rhan fwyaf o achosion, dim ond ddelwedd atgofus ond dienw sydd gennym. Yn yr un modd, mae’n gasgliad mor hyfryd mewn sawl ffordd. Mae un eitem benodol yn cynnig cyfle arbennig i archwilio ac ystyried ffotograffiaeth Fictoraidd: albwm o dros 800 o ffotograffau a oedd yn gatalog ar gyfer archebu printiau dyblyg. Mae’r albwm wedi’u trefnu yn adrannau gan gynnwys dynion, menywod, plant, teuluoedd, brodyr a chwiorydd, pobl mewn gwisg Gymreig, ac eraill.

Sweipio i’r chwith neu’r dde?

Oherwydd roedd y broses tynnu llun yn un cymhleth a oedd yn gofyn am lawer o offer, cydosod a gweithrediad medrus ac amser datguddio hir, cymerwyd y rhan fwyaf o ffotograffau cynnar mewn stiwdio, lle cedwir yr holl offer angenrheidiol i gynhyrchu ffotograff llwyddiannus. Weithiau, gosodwyd y cefnlenni a’r propiau tu allan i fanteisio ar y golau naturiol.

Mae cefndir wedi’i beintio; yn dangos tirlun gwyllt, môr stormus, neu efallai olygfa o’r ffenestr, tra bod byrddau, cadeiriau neu golofnau yn helpu’r unigolion i aros yn llonydd.

Er bod amgylchedd y stiwdio a’r amrywiaeth o bropiau yn ddiddorol, yr agwedd fwyaf diddorol a hudol o’r ffotograffau yw’r bobl.

Teuluoedd o’r oes

Yr un ffactor sy’n uno pawb yn y lluniau yma yw bod pob un ohonynt wedi’i dewis cael eu llun wedi’i thynnu yn stiwdio Mathias. Y llall, sy’n weladwy i ni bron i ganrif a hanner yn ddiweddarach, yw eu presenoldeb dwys ‘Fictoraidd’. Ni fyddaf yn ceisio ei ddiffinio; i mi, mae’n drawiadol ac yn adnabyddadwy, a phan welir y delweddau’n yma mae’n rhywsut yn cymryd drosodd personoliaeth unigryw’r unigolion. Ond wrth gweld tudalen gyfan o ddynion, ferched, neu deuluoedd cyfan, gallwn werthfawrogi eu natur unigryw, eu dynoliaeth a’u hamrywiaeth gogoneddus.

1 / 6

Wrth edrych ar bortreadau’r bobl hyn sydd wedi marw ers tro, mae’n hawdd ddyfeisio straeon amdanynt, gan dychmygu nodweddion cymeriad, a gwerthuso, dehongli, a phasio ein barn fodern (ac hyn siwr o fod yn un anghywir!). Ac wrth wneud hynny, teimlaf ein bod nid yn unig yn nes at y gorffennol ond hefyd at y presennol.

Dr. Ania Skarżyńska, Uwch Archifydd, Archifdy Ceredigion

Exit mobile version