Ar ôl blynyddoedd o wneud ceisiadau am grant, trafod gyda phenseiri, adrannau cynllunio, a chyrff swyddogol o wahanol fathau, a chyfarfodydd ymgynghori â’r cyhoedd, mae Canolfan Diwylliant Conwy yn cymryd siâp ar ei safle ger muriau’r dref yng Nghonwy. Gobeithiwn agor ein drysau yn ddiweddarach yn y flwyddyn.

Bydd Gwasanaeth Archifau Conwy yn symud o’i adeilad cyfredol i fod yn wasanaeth partner craidd yn y Ganolfan Ddiwylliant. Bydd Llyfrgell Conwy a chasgliadau amgueddfeydd Sir Conwy yn ymuno â’r gwasanaeth archifau yno. Bydd gan y Ganolfan hefyd le cymunedol a chaffi.

Mae’r dyluniad ar gyfer adeilad unllawr yn ymgorffori llawer o wydr a tho gwyrdd, ac wedi’i osod yn ôl o’r ffordd. Y gobaith yw bydd yr adeilad modern, a welir o furiau’r dref, yn bresenoldeb synhwyrol, gan uno gyda’r amgylchedd ym Mharc Bodlondeb. Bydd gan yr adeilad hefyd lawr islawr sy’n cynnwys storfa casgliadau treftadaeth. Y gobaith yw cael cyn lleied o reolaethau amgylcheddol allanol â phosibl, a dibynnu ar egwyddorion “passive haus” ecogyfeillgar i storio’r casgliadau archif mewn amgylchedd sefydlog.

conwy-culture-centre-may-2019.jpg

Mae’r Gwasanaeth Archifau hefyd wedi bod yn gweithio gydag ymgynghorwyr dehongli. Rhain sydd yn gyfrifol am ddylunio’r arddangosfeydd treftadaeth a fydd yn arddangos y casgliadau archifau ac amgueddfeydd, ac mae hyn wedi bod yn dasg enfawr o ran darparu ymchwil ac arweiniad.

Gan mae wrth Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol mae cyfran fawr o gyllid wedi dod i’r ganolfan, mae’r prosiect wedi ymrwymo i gynllun gweithgareddau a gynlluniwyd i ehangu ac amrywio cynulleidfaoedd. Mae’r Gwasanaeth Archifau wedi bod yn rhan o nifer o’r is-brosiectau newydd sydd wedi golygu ein bod yn gweithio gyda’n Swyddog Cyfuno i ddarparu hyfforddiant achrededig mewn hanes teulu a thai i grwpiau o oedolion na fyddent fel arfer yn ymweld â’r Gwasanaeth Archifau. Hyd yma mae’r gwasanaeth hefyd wedi ymgysylltu a dros 900 o blant ysgol trwy’r rhaglen “Straeon o’r Archifau”.

Wrth i’r gwydr fynd i mewn i’r adeilad newydd rydym yn paratoi’r casgliadau ar gyfer symud. Mae hyn yn cynnwys gwirio deunydd pacio pob eitem a’i adnewyddu lle bo angen. Rydym hefyd yn barcodio pob cynhwysydd, ac yn cadw rhestr drylwyr o bopeth gan ein bod yn bwriadu defnyddio’r codau bar er mwyn rheoli lleoliad y casgliadau yn ystod ac ar ôl y symud.

Ar gyfer sawl agwedd o’r gwaith paratoi, rydym wedi bod mor ddiolchgar i gael help gan ein gwirfoddolwyr ymroddedig. Rydym hefyd wedi bod yn cynnal llefydd i hyfforddeion o’r rhaglen Uchelgais Diwylliannol, gydag un o’n hyfforddeion yn mynd i’r brifysgol yn yr hydref, ac un arall yn dechrau hyfforddiant gyda ni ym mis Medi.

Edrychwn ymlaen at agor y drysau yn y ganolfan newydd a dechrau cyfnod newydd lle gallwn gynnig gwasanaeth mewn amgylchedd addas at y diben.

Kate Hallett, Archifydd a Rheolwraig Casgliadau Gwasanaeth Archifau Conwy

 

Leave a Reply