Mae Casgliadau Arbennig ac Archifau Prifysgol Caerdydd yn aml yn cynnal cyfleoedd ymchwil â thâl i fyfyrwyr o ystod o ddisgyblaethau academaidd i weithio ar ein casgliadau archifol. Rydym wedi bod yn ffodus i gael Pip Bartlett a Katy Stone am y ddau haf diwethaf, myfyrwyr Ieithoedd Modern sydd wedi gweithio ar archif teulu Barbier fel rhan o Raglen Cyfleoedd Ymchwil Israddedig Caerdydd (CUROP).
“Ah! Madame, let your daughter speak ze Welsh tongue and they are ir-ree-zeest-ible”
Evening Express, 28ain Gorffennaf 1894
Mae’r archif hon, a gafaelwyd yn ddiweddar, yn cynnwys cannoedd o lythyrau a chardiau post a gyfnewidiwyd gan y teulu Franco-Brydeinig rhwng 1860-1924, gyda’r rheini sy’n ymestyn dros y blynyddoedd Rhyfel Byd Cyntaf o ddiddordeb arbennig. Gwaith Pip a Katy oedd i drefnu, disgrifio, a phecynnu’r deunyddiau’n ddiogel, gan ddefnyddio eu sgiliau Ffrangeg i gyfieithu a dehongli’r llythyrau.
Yr Athro Paul E. E. Barbier oedd y darlithydd cyntaf mewn Ffrangeg a benodwyd i Goleg Prifysgol De Cymru a Sir Fynwy, y sefydliad a daeth yn ddiweddarach yn Brifysgol Caerdydd. Wedi iddo ymgartrefu yng Nghaerdydd, parhaodd ei wraig Euphémie a’u hwyth o blant i gyfathrebu gyda’u gilydd yn Ffrangeg, a bu’n gweithio’n agos gyda chymdeithasau Ffrangeg amrywiol ym Mhrydain, megis Société Franco-Britannique de Caerdydd.
Roedd Barbier yn aelod parchus o staff, ac roedd ganddo enw cydnabyddedig yn y gymuned ehangach yng Nghaerdydd. Ar ôl symud i Gymru gyda’i deulu ym 1883, gwnaeth ymdrech i gymryd rhan mewn cymdeithasau diwylliannol lleol ac roedd ganddo ddiddordeb arbennig yn yr iaith Gymraeg. Mae’r archif yn tystio i’w ymrwymiad parhaus i’r Gymraeg trwy gydol ei amser yn y brifddinas.
O 1897, roedd Barbier ar y pwyllgor ar gyfer yr Eisteddfod Genedlaethol, a chyfrannodd at gyfres o erthyglau papur newydd lle honnwyd bod ‘ysbryd y genedl Gymreig yn ddiolchgar i ddiwylliant yr Eisteddfod’.
Pan agorodd Prifysgol De Cymru a Sir Fynwy gyntaf ym 1883, nid oedd dewis i astudio Cymraeg. Fodd bynnag, mab Barbier oedd un o’r myfyrwyr cyntaf i gwblhau gradd Meistr mewn Ffrangeg a Chymraeg – gan awgrymu y gallai Barbier fod wedi cael rhywbeth i’w wneud ag arloesi astudiaethau Cymreig yn y Brifysgol.
Mae tystiolaeth o erthyglau papur newydd yn dangos bod Barbier hefyd yn cyflwyno darlithoedd dylanwadol am yr iaith Gymraeg a diwylliant Cymraeg. Roedd ei angerdd am yr iaith mor heintus, roedd y papurau lleol wedi cynnwys cartŵn o fenywod ifanc yn awyddus i ddysgu Cymraeg: M. Barbier’s remarks are producing results. Inspired by his advice as to the potentiality of Welsh as a vehicle and instrument of tender passion, a number of Cardiff ladies who are on the borderland of old maidenhood, have set their heads together with a view of learning the language of Eden.’ (Evening Express, 1 Awst 1894).
Alison Harvey, Casgliadau Arbennig ac Archifau Prifysgol Caerdydd