Nid tasg hawdd yw dathlu canmlwyddiant digwyddiad mor cataclysmig â’r Rhyfel Byd Cyntaf. Roedden ni’n mwyn cynhyrchu rhywbeth fyddai’n wahanol a pharhaus, a allai fod yn ganolbwynt i gofio, ac ar yr un pryd adnodd i helpu pobl i ddarganfod y rhan y chwaraeodd eu cyndadau yn y rhyfel. Ond sut i wneud hynny?
Dros y blynyddoedd, rydyn ni wedi derbyn nifer o rhestrau anrhydedd. Weithiau fe’u rhoddwyd i ni gyda’r geiriau “Mae’n debyg fyddwch chi ddim yn mwyn hyn, ond …”, ac yna rhywfaint o syndod pan wnaethom ni. Mae llawer ohonyn nhw wedi dod o eglwysi a chapeli sydd wedi cau, ac mae cyfuniad o flynyddoedd o leithder ac esgeulustod wedi niweidio eitemau addurnol iawn oedd unwaith yn y lle blaenaf.
Ar ôl i’r rhyfel ddod i ben a daeth y dynion adref, bu’r genedl yn trafod sut orau i ddelio â’r hyn a ddigwyddodd. Symudodd y ffocws i’r rhai nad oeddent wedi dod adref: yn ystod y degawd wedi’r rhyfel, cododd llawer o gymunedau dabledi, croesau a chofgolofnau, neu adeiladwyd neuaddau a chapeli, i gofio eu meiron ac i ddarparu canolbwynt ar gyfer cofio blynyddol. Aeth yr amser heibio, a chafodd y rholiau anrhydedd oedd yn lle amlwg yn ystod y rhyfel eu symud i ystafelloedd llai, atigau a storfeydd, a’r hen filwyr y mae eu henwau a restrwyd arddyn nhw wedi diflannu un wrth un.
Gwnaethon ni ddigideiddio’r cofebion a rholiau anrhydedd rhyfel i gyd sydd yn Archifau Gorllewin Morgannwg, trawsgrifio’r holl enwau a’u gwneud yn mynegai. Cafodd hyn ei uwchlwytho ar ein gwefan fel rhestr anrhydedd ddigidol. Mae gan bob enw ar y mynegai (mae 4295 ohonyn nhw) ddolen i’r gofeb lle maent yn ymddangos, gyda gwybodaeth am ble cafodd ei harddangos a sut cafodd ei gwneud.
Gellir gweld yr adnodd ar ein gwefan, www.abertawe.gov.uk/archifaugorllewinmorgannwg.
Mae ein gobaith y bydd hyn yn gofeb barhaol i’r dynion a menywod o’n hardal a gymerodd ran yn y rhyfel, a bydd yn adnodd yn ddefnyddiol ar ôl i goffau arbennig eleni ddod i ben.