Site icon Archifau Cymru

Cadwraeth map ystâd enfawr Archifdy Powys

Mae Map Ystâd Deuddwr 1747/8 yn fap mawr iawn (294 x 357cm) sy’n dangos tiroedd a etifeddwyd gan John Newport o Iarll Bradford. Cafodd y map ei arolygu a’i hengrafo gan John Rocque, ffigur arwyddocaol o’r 18fed ganrif. Mae ei waith arall yn cynnwys cynlluniau o Gerddi Richmond (bellach y Gerddi Botanegol Brenhinol yn Kew), Castell Windsor, Kensington Palace, Sion House a Cheswick Gardens. Mae gwaith enwocaf Rocque yn gynllun o 1747 o Lundain, a ystyrir yn gynrychiolaeth fwyaf cywir Llundain Sioraidd.

Prynodd Archifau Powys bapur Deuddwr mewn ocsiwn yn ôl yn 2002 gyda chymorth Cronfa Grantiau Resource / V & A. Mae mewn cyflwr teg, gyda’r holl fanylion yn weladwy o hyd. Fodd bynnag, mae’r map wedi ei storio wedi’i rolio, a heb unrhyw becyn allanol sy’n golygu bod yr ymyl allanol yn fudr. Mae yna lawer o leoedd hefyd lle mae’r papur yn dod i ffwrdd o’r cefn lliain, ac yn y llefydd yma mae’r papur wedi dechrau torri. Gofynnwyd am arian grant drwy’r NMCT a MALD er mwyn sefydlogi’r map a sicrhau ei chadwedigaeth hirdymor.

Bydd gwaith cadwraeth ar y map yn ddechrau flwyddyn nesaf er mwyn gwneud y map yn fwy hygyrch i’r cyhoedd. Bydd delweddau digidol yn cael eu cynhyrchu i sicrhau mynediad cyflym, ond bydd cadwraeth hefyd yn sicrhau bod staff, gwirfoddolwyr ac ymchwilwyr yn gallu defnyddio’r gwreiddiol lle bo angen.

Exit mobile version