Mae arddangosfa newydd, sydd yn cofnodi canmlwyddiant y cadoediad ddaeth a’r Rhyfel Byd Cyntaf i ben, ar agor i’r cyhoedd.

Anglesey Remembers 1Mae ‘Ynys Môn yn cofio’ yn brosiect mewn Partneriaeth rhwng Archifau Môn ag Ysgol Gynradd Brynsiencyn. Daeth plant o’r ysgol i ymuno gyda Chadeirydd y Cyngor Sir, y Cynghorydd Dylan Rees, wrth iddo agor yr arddangosfa’n swyddogol yn Llangefni ar ddydd Gwener, Tachwedd 9fed

Mae’r arddangosfa’n canolbwyntio ar lythyrau a lluniau milwyr lleol, gydag ymwelwyr yn cael cipolwg teimladwy ar fywyd ym Môn yn ystod y cyfnod anodd a phoenus yma.

Eglurodd y Cyng Dylan Rees, “Roedd cyfraniad Ynys Môn i’r ymdrech ryfel yn sylweddol iawn, gyda channoedd o ddynion ifanc yn mynd i ffwrdd i ymladd. Cafodd nifer fawr o’r dynion ddim dychwelyd adref. Cafodd nifer unai eu lladd ar faes y gad, neu farw o glefyd, a chafodd eraill eu hanafu yn ddifrifol. Mae’r arddangosfa yma’n deyrnged i’r dynion yma a’r bobl hynny oedd ar ôl gartref, a fu’n ymdrechu ynghanol colled a phoen er mwyn sicrhau’r fuddugoliaeth derfynol.”

anglesey remembers 2

“Rwyf yn falch o weld disgyblion o Ysgol Brynsiencyn yn cymryd cymaint o ddiddordeb yn hanes y pentref, a hoffwn ddiolch i staff yr Archifdy a gweithio gyda’r plant i greu’r arddangosfa wych yma.”

Mae arddangosfa rithiol hefyd wedi ei greu fel rhan o Ynys Môn yn cofio’. Gellir ei weld yma: https://cld.bz/YfqRiua

Mae’r arddangosfa, sydd ymlaen tan 30ain Tachwedd 2018, am ddim, ac ar agor i’r cyhoedd rhwng 9:15yb – 4:45yh o Ddydd Llun i Ddydd Gwener.

Leave a Reply