Site icon Archifau Cymru

Sharing Private O’Brien

Ar ddydd Mercher y 3ydd o Hydref 2018 bydd Archifau Gwent yn dathlu diwedd eu prosiect ‘Sharing Private O’Brien’ yn Theatr y Gyngres, Cwmbrân.

Ganwyd William Bernard O’Brien, mab i John a Johanna O’Brien, yn 1895 yng Nghasnewydd. Fe’i bedyddiwyd ar 02 Mehefin 1895 yn Eglwys Gatholig Rufeinig y Santes Fair, Casnewydd (D/RC4/4). Treuliodd flynyddoedd cyntaf ei fywyd yn byw yn 47 Heol Eglwys Fair, Casnewydd, ac yn ddiweddarach yn 22 Heol Caerleon, Casnewydd, a bu’n gweithio yn Ngwaith Dur Lysaght fel Torrwr Sgrap. Ym mis Mai 1914, ymunodd â Heddlu Sir Fynwy (D3297/3) ac fe’i hanfonwyd i’r Fenni ac yna Abersychan. Tra roedd yn gweithio yn Abersychan, fe gyfarfu â Rose Gwenllian Malalah Curtis, o’r Little Crown Inn, a daethant yn gariadon.

Ar ôl i’r Rhyfel Byd Cyntaf ddechrau ym 1914, ymrestrodd yng Ngwarchodlu’r Grenadwyr yn 1915 a dechreuodd ysgrifennu llythyrau yn rheolaidd i Rose. Yn gyntaf, daethant o Caterham yn Surrey, yna Barics Chelsea yn Llundain, ac yn olaf o Ffrainc.

Yn ei lythyrau, nid yn unig mae’n rhoi manylion am ei brofiadau ar y Ffrynt, ond hefyd o ymosodiadau Zeppelin yn Llundain, dyletswydd gwarchodaeth ym Mhalas Buckingham, marwolaeth Kitchener, a’i obeithion ar gyfer y dyfodol. Yn anffodus, cafodd ei ladd gan ffrwydryn wrth weithio fel cludwr elorwely ar Awst 3, 1917.

 

 

Cadwodd Rose y llythyrau a anfonodd Will ati, ac yn 2014, adneuodd ei chwaer-yng-nghyfraith Mrs Joan Nash y llythyrau yn Archifau Gwent. Buom yn ffodus iawn i dderbyn casgliad mor arbennig, ac yn 2017 cawsom grant gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri i gyflawni’r prosiect ‘Sharing Private O’Brien’.

Drwy’r prosiect, buom yn gweithio gydag Ysgol Bentref Victoria, Ysgol Bryn Onnen ac Ysgol y Santes Fair, Casnewydd, i greu tair ffilm animeiddiedig fer a ysbrydolwyd gan lythyr Will. Mae’r ffilmiau i’w gweld yma. Crëwyd adnodd addysg gysylltiedig hefyd. Canlyniad arall o’r prosiect oedd Rhestr Anrhydedd y Rhyfel Byd Cyntaf ar gyfer Abersychan, gwaith ymchwil gan fyfyrwyr o Goleg Gwent. Gellir dod o hyd i’r pecyn addysg, Rhestr Anrhydedd a chatalog Will O’Brien (D5963) ar ein gwefan www.gwentarchives.gov.uk.

Bydd y digwyddiad yn Theatr y Gyngres, Cwmbrân, ar 03 Hydref, ar agor i’r cyhoedd ac mae croeso i bawb fynychu. Byddwn yn postio mwy o wybodaeth yn yr wythnosau nesaf ar ein tudalennau cyfryngau cymdeithasol ar Facebook a Twitter.

Rhiannon Phillips, Archifau Gwent.

Exit mobile version