Site icon Archifau Cymru

Gwasanaeth Archifau Môn yn Derbyn Achrediad Cenedlaethol

58221_team-624Mae Gwasanaeth Archifau Ynys Môn wedi derbyn Achrediad Gwasanaeth Archifau.

Mae Gwasanaethau Archifau Achrededig yn sicrhau casgliad hirdymor, cadwraeth a hygyrchedd ein treftadaeth archifol. Achrediad yw safon ansawdd y DU sy’n cydnabod perfformiad da ym mhob maes o ddarpariaeth. Mae cyflawni statws achrededig yn dangos bod Archifau Ynys Môn wedi cyrraedd safonau cenedlaethol a ddiffinnir yn glir mewn perthynas â rheolaeth ac adnoddau, gofal am ei gasgliadau unigryw a beth mae’r gwasanaeth yn ei gynnig i’w amrediad o ddefnyddwyr.

Bu i’r aseswyr Achredu Gwasanaeth Archifau estyn: “llongyfarchiadau i’r gwasanaeth ar ei waith a chyfeiriwyd at ba mor dda mae’r gwasanaeth yn cael ei reoli wrth weithredu o fewn ei adnoddau cyfyngedig er mwyn cyflawni llawer iawn. Nodwyd hefyd y manteision o ymestyn y gwasanaeth allgymorth mewn cysylltiad ag Oriel Ynys Môn a’r agwedd gadarnhaol yn gyffredinol tuag at waith partneriaeth a fyddai’n dangos gwerth casgliadau’r archifau i gynulleidfaoedd ehangach.”

Archifau Ynys Môn yw gwasanaeth archifau’r awdurdod lleol ar gyfer Ynys Môn. Ei nod yw adnabod, casglu a chadw dogfennau hanesyddol sy’n ymwneud ag Ynys Môn a sicrhau eu bod ar gael i unrhyw un sy’n dymuno eu defnyddio.

Meddai Delyth Molyneux, Pennaeth Dysgu: “Mae’r dyfarniad hwn yn dilyn y broses drawsnewid a ddigwyddodd dros 5 mlynedd yn ôl ac mae’n dangos yn glir bod gan Archifau Ynys Môn enw da o ran cyrhaeddiad ym mhob maes o ddarparu gwasanaeth archifau. Rwy’n llongyfarch yr holl staff archifau sy’n gweithio mor galed er mwyn sicrhau gwasanaeth rhagorol.”

Meddai Hayden Burns, Uwch Archifydd: “Mae’r dyfarniad achrediad archifau unwaith eto yn deyrnged i’r gwaith caled a’r ymrwymiad a ddangosir gan ein staff a’n gwirfoddolwyr wrth iddynt edrych ar ôl ein casgliadau rhagorol a sicrhau eu bod ar gael ar gyfer gwaith ymchwil a mwynhad y cyhoedd. Edrychwn ymlaen at adeiladu ar y llwyddiant hwn yn y dyfodol.”

Exit mobile version