Ydych chi eisiau cydnabyddiaeth gan gydweithwyr ar gyfer rhagoriaeth? Ydych chi angen tystiolaeth i ddangos eich ymgysylltu effeithiol gyda gwirfoddolwyr? Os felly, beth am enwebu eich gwasanaeth archif ar gyfer y Wobr Gwirfoddoli Archif ARA?
Bydd yr enillwyr yn cael llwyfan cenedlaethol i ddathlu cyfraniad eu gwirfoddolwyr i’r gwasanaeth a chael cyhoeddusrwydd i rôl eu harchif o ran cefnogi unigolion a chymuned trwy raglenni gwirfoddoli.
Roedd Enillydd 2016 yn ‘Ein Helpu i Gyflawni’ cynllun Llyfrgell Genedlaethol Cymru (LlGC) i ehangu mynediad i archifau lleol trwy ddatblygu tîm o wirfoddolwyr medrus. Dyma a ddywedodd y beirniaid…
“’Ein Helpu i Gyflawni’ oedd yr enwebiad cryfaf mewn maes cystadleuol iawn. Yn 2015-16 yn unig, bu 65 o wirfoddolwyr prosiect yn cymryd rhan yn y cynllun gan gyflawni gwaith gwirfoddol oedd yn cyfateb i fwy na 1,000 diwrnod o’u hamser. Cwblhawyd 10 prosiect a thasg ganddyn nhw; mae 10 arall yn dal ar droed. Yn ogystal, bu 769 o wirfoddolwyr ar-lein yn cymryd rhan yn ‘Cynefin’, prosiect arloesol i geo-gyfeirio Mapiau Degwm Cymru. Mae ‘Ein Helpu i Gyflawni’ wedi golygu cydweithio a chymorth cymunedol ar raddfa eang, amrediad eang o wirfoddolwyr, ac wedi elwa o gael cymorth staff archif proffesiynol yn y Llyfrgell Genedlaethol, yn ogystal â chefnogaeth reolaethol o’r radd flaenaf. Mae’r cynllun hefyd wedi llwyddo ar lefel unigol: mae oddeutu 20% o wirfoddolwyr wedi symud ymlaen i waith cyflogedig.”
Mae’r Gymdeithas Archifau a Chofnodion yn ceisio dathlu rôl gwirfoddolwyr wrth gefnogi gwasanaethau archifau, ac i gasglu astudiaethau achos arfer da i hysbysu’r sector ehangach. Mae’r wobr hon yn elfen allweddol o’r Cynllun Gweithredu, Gwirfoddoli mewn Archifau ARA, gan adlewyrchu argymhellion yr adroddiad a gyhoeddwyd gan ARA yn ddiweddar Rheoli Gwirfoddoli yng Archifau. Mae’r wobr hefyd yn cael ei gefnogi gan Yr Archifau Cenedlaethol, Is-adran Amgueddfeydd, Archifau a Llyfrgelloedd Llywodraeth Cymru, a Chyngor Archifau’r Alban.
Mae’r wobr hon yn agored i archifau ar draws y Deyrnas Unedig ac Iwerddon. Bydd Gwobrau yn cael cyhoeddusrwydd eang ledled a thu hwnt i’r sector.
Rydym yn croesawu enwebiadau ar gyfer y wobr. Mae ffurflen enwebu byr ar gael o wefan ARA http://www.archives.org.uk/careers/volunteering/volunteering-awards.html
a gall sefydliadau enwebu prosiectau, neu raglenni gwirfoddoli parhaus, oedd yn rhedeg yn ystod 2016/2017.
Asesir enwebiadau yn erbyn tri chanlyniad allweddol:
A) Effaith ar y gwirfoddolwyr
B) Effaith ar y gwasanaeth
C) Effaith ehangach
Bydd angen dychwelyd ffurflenni enwebu wedi’u cwblhau i volunteeringaward@archives.org.uk erbyn diwedd Wythnos Genedlaethol y Gwirfoddolwyr – 9 Mehefin 2017.
Os oes gennych unrhyw ymholiadau am y wobr, yna cysylltwch â Sally Bevan, Gweinyddwr Gwobr Gwirfoddol (020 7332 3820 neu volunteeringaward@archives.org.uk).