Ar ddydd Sadwrn, 19eg o Dachwedd, fel rhan o ymgyrch genedlaethol Archwilio eich Archif, cynhaliodd Swyddfa Gofnodion Sir y Fflint ddarlith ddarluniadol ddiddorol iawn “The March of Archery” gan Advolly Richmond. ’Roedd y sgwrs yn seiliedig ar weithgareddau Cymdeithas Seithyddion Brenhinol Cymru ynghyd â stadau a theuluoedd yn ardal Sir y Fflint a Swydd Amwythig / Gororau Cymru. Rhoddodd gipolwg ysgafn ar saethyddiaeth fel un o chwaraeon elitaidd ddiwedd y 18fed a thrwy gydol y 19eg ganrif. Dim ond rhai hynod o gyfoethog a allai gymryd rhan mewn digwyddiadau Bwâu neilltuedig stadau’r aristocratiaid, gyda hyd at 200 o westeion a saethwyr yn cydeistedd i giniawa rhwng rowndiau.

Mwynhaodd y rhai a fynychodd y sgwrs y cyfuniad o sleidiau lliwgar a manylion hanesyddol addysgiadol am deuluoedd tirfeddiannol lleol a’u heiddo a dysgu fel oedd bob cymdeithas yn meddu ar eu gwisgoedd unigryw eu hunain.

14572441_668165740025378_7885887977181862495_n

Drwy gydol wythnos Archwilio eich Archif ei hun llywyddodd Swyddfa Gofnodion Sir y Fflint hefyd arddangosfa yn dathlu trichanmlwyddiant Capability Brown (1716 – 2016). Yn ogystal â hyn ’roedd yn amlygu William Emes a’i waith yng Ngogledd Cymru. Rhoddwyd yr arddangosfa at ei gilydd gan Ymddiriedolaeth Gerddi Hanesyddol Cymru, gyda gwybodaeth ychwanegol am gysylltiad Penarlâg gan aelodau o staff y Swyddfa Gofnodion.

Leave a Reply