Gyda bywydau prysur gall fod yn anodd dod o hyd i’r amser i feddwl am wirfoddoli heb sôn am fynd allan a chymryd rhan mewn digwyddiadau gwirfoddoli. Fodd bynnag, os bydd y cyfle iawn yn codi ac rydych yn gallu dweud ‘ie’ gall gynnig llu o fanteision – lleihau straen, gwneud ffrindiau a dysgu rhywbeth newydd.

Wedi iddo ymddeol o ddysgu dros flwyddyn yn ôl, gwyddai Colin ei fod eisiau treulio rhywfaint o’i amser hamdden newydd yn gwirfoddoli yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Ers ymuno â’u tîm o wirfoddolwyr mae wedi cael y cyfle i fod yn rhan o nifer o brosiectau a chyfarfod llawer o wahanol bobl, nawr mae Colin yn dweud wrthym am rai o’r prosiectau hynny a’r pethau mae wedi eu dysgu – o ddelio â staeniau te i wrthsefyll goresgyniad y Natsïaid.

“Yn gyson, trwy gydol fy amser yn y Llyfrgell Genedlaethol, rwyf wedi gweithio ar y prosiect Mapiau Arolwg Ordnans o Loegr, sydd wedi bod yn brosiect tymor hir i roi mewn cronfa ddata miloedd o fapiau OS a brynwyd gan y Llyfrgell mewn gwahanol gyflyrau cadwraeth – o berffaith i prin yn hongian gyda’i gilydd. Mae llawer ohonynt wedi eu defnyddio gan y syrfewyr i weithio ar y rhifynnau nesaf ac i ddangos eu hanodiadau o sut mae pethau wedi newid yn y dirwedd a’r broses o gynhyrchu’r mapiau – hyd yn oed i lawr i ollwng eu te drostynt!

“Erbyn y 1930au roedd llawer o’r mapiau (a oedd yn dangos rhan o allu amddiffyn y wlad a pharodrwydd milwrol) wedi eu stampio ‘SECRET’ – rwyf wedi gweld wedyn bod y rhain yn cael eu defnyddio gan yr SAS mewn gwahanol ardaloedd i drefnu storfeydd arfau dros dro a thactegau eraill ar gyfer gwrthsefyll goresgyniad posibl gan y Natsïaid.”

Yn ogystal â’r prosiect hirdymor hwn, mae Colin hefyd wedi bod yn cymryd rhan mewn prosiectau digideiddio:

“Y ddau rwyf wedi bod yn gysylltiedig â hwy hyd yn hyn yw Prosiect Cynefin a thrawsgrifio Llyfr Cofio Cenedlaethol Cymru (The Welsh Book of Remembrance). Mae’r cyntaf yn geo‑gyfeirio mapiau degwm Cymru yn y 1840au, gan ddogfennu’r patrymau tirddaliadaeth a thenantiaeth ledled y wlad. Bydd yr ail brosiect yn creu cronfa ddata chwiliadwy o’r holl filwyr o dras Gymreig, neu a fu’n gwasanaethu mewn catrawd Gymreig, a gollodd eu bywydau yn ystod y Rhyfel Mawr. Bydd yn etifeddiaeth barhaol ar gyfer y rhai a fu farw yn y Rhyfel, yn ogystal â bod yn adnodd pwysig i haneswyr y gwrthdaro yn y dyfodol.

“Yr wythnos diwethaf dechreuais ar brosiect newydd (a allai droi allan i fod y defnydd mwyaf uchelgeisiol a diddorol o wirfoddolwyr eto!), i restru ac ysgrifennu esboniadau ar y cannoedd o ffotograffau sy’n gysylltiedig â’r rheilffyrdd sydd gan y Llyfrgell trwy gydol ei chasgliad. Y nod yw creu cronfa ddata ganolog a fydd yn gwneud bywyd unrhyw un sy’n ceisio dod o hyd i ddelweddau o reilffyrdd, locomotifau neu weithwyr rheilffordd yn y Llyfrgell yn llawer haws, ond gall yn aml (hyd yn oed ar brofiad y delweddau cyntaf) gynnwys cyfnod da o ymchwil i nodi’r delweddau hynny a’u rhoi mewn cyd-destun.   Dylai’r dasg hon ar ei ben ei hun fy nghadw allan o ddrygioni am y misoedd nesaf!!”

I gael rhagor o wybodaeth am gynllun gwirfoddoli Llyfrgell Genedlaethol Cymru, ewch i:

https://www.llgc.org.uk/cy/am-llgc/gweithio-gyda-ni/gwirfoddoli/

#ExploreVolunteers

Leave a Reply