Gan ddefnyddio dyddiaduron Richard Burton, mae pobl ifanc yn ymchwilio’r profiad o dyfu i fyny ym Mhort Talbot, tref sy’n newid drwy’r amser – trwy lygaid un o feibion enwoca’r dref.

richard_burton_diaries_-_credit_richard_burton_archives_swansea_university

Actor, carwr, yfwr: efallai’r tri gair cyntaf a ddaw inni wrth feddwl am y seren ffilm a’r curwr calonnau a aned ym Mhort Talbot, Richard Burton. Ond roedd hefyd yn ysgrifennwr a dyddiadurwr toreithiog, ac fe ddechreuodd gofnodi ei feddyliau preifat ag yntau ond yn bedair ar ddeg oed. Erbyn hyn, diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol, mae pobl ifanc ym Mhort Talbot yn defnyddio ei gasgliad helaeth i ddatguddio hanes cymdeithasol y dref a’i thrigolion o’r 1930au hyd y dydd heddiw.

Bydd myfyrwyr o Goleg Castell Nedd Port Talbot yn tyrchu trwy waith ysgrifennu’r seren i gael gwybod sut brofiad oedd tyfu i fyny ym Mhort Talbot a gweld pa mor wahanol – neu debyg – yw’r materion oedd yn wynebu’r Burton ifanc i’r rhai y mae pobl ifanc heddiw yn eu hwynebu.

Fel rhan o brosiect Burton @ 14 a dderbyniodd £34,000 gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri, mae’r myfyrwyr yn bwriadu creu adnoddau parhaol ar gyfer pobl leol eraill a phlant ysgol, gan ddefnyddio’r hyfforddiant a gawsant mewn recordio fideo, hanes llafar, archifo, a sgiliau digidol a chelf i ail-adrodd stori’r dref.

Mae Eirwen Hopkins o Brifysgol Abertawe, sy’n rheoli’r prosiect, yn esbonio tarddiad y syniad: “Mae gan Archif Richard Burton ym Mhrifysgol Abertawe gasgliad helaeth o waith ysgrifennu gwreiddiol Burton, ac fe sylweddolodd y bobl ifanc yn fuan nad oes gan rai o drigolion Port Talbot fawr ddim o syniad pwy oedd y dyn go iawn, er ei fod yn hanu o’r un ardal â nhw.

“Gadawodd serendod Burton waddol enfawr i’r dref, ond gwnaeth y dref argraff gref arno yntau yn ddyn ifanc yn tyfu i fyny yn ne Cymru. Rydym am ddefnyddio ei ddyddiaduron preifat i ail-gysylltu pobl ifanc yr ardal gyda hanes newid personol, cymdeithasol ac artistig sydd ar drothwy eu drws.”

Casglu a gwerthu dom

Ar ôl marwolaeth ei fam ag yntau ond yn ddwy oed, cymerwyd Burton – neu Richard Jenkins fel yr oedd ar y pryd – i mewn gan ei chwaer a’i gŵr. Nid oedd fawr ddim arian yn sbâr yn y teulu, ac er mwyn ennill digon i allu mynd i’r sinema casglai Burton hen bapurau newyddion yn bapur lapio i’w fodryb oedd yn rhedeg siop bysgod yn ogystal â chasglu a gwerthu dom o fryncyn gerllaw i werthwr gwrtaith lleol. Wedi iddo ddangos addewid artistig yn yr ysgol, cymerodd yr athro Saesneg Philip Burton Richard ef dan ei adain, gan roi dosbarthiadau actio, llefaru ac iaith iddo cyn dod yn geidwad cyfreithiol drosto pan roedd Richard yn 18 – a chymerodd Richard enw ei fentor ar ei gyfer ei hun.

Adeiladwyd gyrfa actio Burton yn dilyn y plentyndod llawn newid hwn, ac aeth Burton ymlaen i ennill enwogrwydd byd-eang a digon o gyfoeth i brynu diemwnt drutaf y byd yn 1969 ar gyfer y seren ffilm a’i wraig, Elizabeth Taylor.

Yn allweddol, Port Talbot oedd y gefnlen i ddatblygiad personol a dramatig Burton.

Richard Bellamy yw Pennaeth Cronfa Dreftadaeth y Loteri yng Nghymru ac mae’n credu y gall y prosiect gynnig golwg newydd ar fywyd yn yr ardal ddiwydiannol: “I bobl ifanc heddiw, bydd gweld bywyd yn y dref trwy lygaid Burton yn ei lencyndod yn yr 1930au a’r 40au yn profi’n daith ddiddorol. Mae’n gyfle unigryw i wylio datblygiad hanesyddol cymuned, ond i wneud hynny trwy lygaid eicon byd-eang.”

Arddangosfa gymunedol

Yn ogystal â magu sgiliau technegol, bydd y bobl ifanc hefyd yn ymweld â thirnodau lleol oedd yn bwysig i’r Burton ifanc, ac yn gwylio rhai o’r ffilmiau oedd yn dangos mewn sinemâu ar y pryd. Penllanw’r prosiect fydd creu pecyn adnoddau parhaol ar gyfer y gymuned, ynghyd â chyfres o ddigwyddiadau i rannu ac arddangos canfyddiadau’r grŵp.

Ychwanegodd Aelod Seneddol Aberafan Stephen Kinnock: “Mae cysylltu pobl ifanc gyda hanes eu hardal leol yn bwysig, a dylai manteisio ar adnodd lleol mor gyfoethog ag Archif Richard Burton gynnig cyfoeth o ddeunyddiau fydd yn ein helpu i gael gwell dealltwriaeth o Bort Talbot, a hynny o safbwynt mor unigryw. Wedi imi gael cyfle i weithio gyda Chronfa Dreftadaeth y Loteri ar ffair ariannu ynghynt eleni, mae’n galonogol gweld llwyddiant grwpiau lleol o’r herwydd, a byddwn yn annog eraill i fanteisio ar y cyfle i drafod syniadau gyda staff CDL yng Nghymru. ”

Mae Castell-nedd Port Talbot yn un o ardaloedd blaenoriaeth Cronfa Dreftadaeth y Loteri yng Nghymru ac os hoffech gael gwybod mwy am sut all CDL helpu rhoi eich syniad ar waith, ewch i hlf.org.uk/cymru neu cysylltwch â thîm Cymru ar wales@hlf.org.uk neu 029 2034 3413

Leave a Reply