Mae yna garafán arbennig yn Abertawe yr wythnos hon, ond nid carafán gyffredin mohoni, ond bwth recordio symudol ar gyfer y BBC. Mae’r bwth yn rhan o ‘The Listening Project’ BBC Radio 4 a daeth yma i recordio sgyrsiau rhwng ffrindiau neu berthnasau ar gyfer y rhaglen radio boblogaidd.
Cafodd ymweliad y bwth ag Abertawe ei gyd-drefnu gyda Gwasanaethau Llyfrgell ac Archifau Cyngor Abertawe.
Meddai Lynne Rosser, “Pwrpas ‘The Listening Project’ yw creu darlun unigryw o’n bywydau heddiw yn y Deyrnas Unedig trwy gasglu sgyrsiau rhwng ffrindiau a theulu ar ba bynnag destun sy’n mynd â’u bryd. Ers 2012, mae’r Prosiect wedi recordio dros fil o sgyrsiau ac maent wedi’u cadw yn archifau’r Llyfrgell Brydeinig a detholiadau’n cael eu darlledu ar Radio 4 ac ar lein.”
Dywedodd pennaeth Gwasanaeth Archif Gorllewin Morgannwg, Kim Collis, “Bu’n uchelgais gen i ers dros flwyddyn bellach i ddod â ‘The Listening Project’ i’r rhan yma o dde Cymru. Y mae wedi teithio i sawl rhan o’r Deyrnas Unedig ond hyd yn hyn fe fu bwlch enfawr yn y map o safbwynt de-orllewin Cymru.
“Mae’n gyfle i bobl leol gymryd rhan mewn prosiect cenedlaethol, sy’n datgelu’r agweddau mwyaf twymgalon a chadarnhaol ar ein cymeriad cenedlaethol, cryfder ein cyfeillgarwch am oes, clymau teuluol a chymunedol.”
Mae Radio Wales eisoes wedi dechrau recordio sgyrsiau, gyda recordiad peilot rhwng Dave a Jeff, dau weithiwr dur wedi ymddeol yn Port Talbot sy’n pryderu am ddyfodol y dref os bydd y gwaith dur yn cau http://www.bbc.co.uk/programmes/p044wflr
Fore dydd Iau, bydd Radio 4 yn darlledu’n fyw o Ganolfan Ddinesig Abertawe gyda chyflwynydd y rhaglen Fi Glover ac amryw o westeion lleol.
Dywedodd y Cynghorydd Robert Francis-Davies, Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Fenter ac Adfywio, “Bydd ymweliad ‘The Listening Project’ ag Abertawe o gymorth i godi proffil y ddinas a’r trefi cyfagos ymhlith cynulleidfa radio genedlaethol ac rydym yn ddiolchgar dros ben i BBC Radio Wales a Radio 4 am y cyfle”.
Nodyn i olygyddion
Bydd bwth teithio ‘The Listening Project’ yn parcio y tu allan i Ganolfan Ddinesig Abertawe ym Maes Parcio’r Dwyrain o ddydd Sadwrn 21 tan fore Iau 25 Awst. Mae’r lleoliad yn agos at asgell ddeheuol yr adeilad y tu allan i’r Llyfrgell Ganolog. Mae rhwystr y maes parcio wedi’i atal er mwyn rhoi mynediad yn ystod yr wythnos.
Gallwch gysylltu â chynhyrchydd Radio Wales Lynne Rosser trwy e-bost yn lynne.rosser@bbc.co.uk neu 07734 000837
Mae mwy o wybodaeth am ‘The Listening Project’ i’w chael ar lein ar wefan y BBC http://www.bbc.co.uk/programmes/b01cqx3b