Mae ffilm Gwasanaeth Archifau Conwy yn dangos beth ddigwyddodd ar ôl i awyren yr RAF gwympo yn Llandrillo-yn-Rhos

Daethpwyd o hyd i hen ffilm brin o ymchwiliad i ddamwain awyren yn Llandrillo-yn-Rhos.

Y gred yw fod y ffilm yn dyddio’n ôl i’r 1920au, ac mae’n dangos torfeydd o bobl ar y traeth wrth i ddynion milwrol edrych ar ddarnau o’r awyren.

Mae’r clip hynod, o’r enw ‘Awyren yr RAF wedi’i dryllio yn Llandrillo-yn-Rhos’, yn perthyn i Archifau Conwy ac mae’n rhoi cipolwg ar y gorffennol.

Does dim sain ar y ffilm, ond mae’n dangos teuluoedd – yn gwisgo eu dillad gorau a’r dynion a’r menywod mewn hetiau – yn edrych ar yr awyren ger y môr.

Rhif cofrestru’r awyren yw F425.

Mae Gwasanaeth Archifau Conwy yn Yr Hen Ysgol Fwrdd, Lloyd Street, Llandudno a gallwch gysylltu â nhw ar (01492) 577550.

conwyplane

Leave a Reply