Site icon Archifau Cymru

Archifau ledled Cymru yn cipio gwobrau cenedlaethol am ragoriaeth marchnata

Mae staff amgueddfeydd, archifau a llyfrgelloedd o bob rhan o Gymru wedi mynychu digwyddiad gwobrwyo mawreddog yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru heddiw (dydd Gwener 26 Chwefror). Mae Gwobrau Rhagoriaeth Marchnata yn cydnabod y gwaith ffantastig sy’n cael ei wneud gan staff mewn amgueddfeydd, archifau a llyfrgelloedd ar draws Cymru, yn aml gydag adnoddau prin iawn.

Cafwyd dros bedwar deg o geisiadau yng Ngwobrau Rhagoriaeth Marchnata eleni oddi wrth wasanaethau llyfrgelloedd, amgueddfeydd ac archifau ledled Cymru. Ymhlith y categorïau roedd: arddangos rhagoriaeth marchnata; prosiect cydfarchnata y flwyddyn a hyrwyddwr marchnata y flwyddyn.

Mae’r gwobrau’n rhan o raglen ‘Denu’r Gynulleidfa’ Llywodraeth Cymru ar gyfer amgueddfeydd, archifau a llyfrgelloedd, a dywedodd y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth, Ken Skates: “Rydym yn awyddus i weld cynifer o bobl â phosib yn defnyddio ein gwasanaethau llyfrgell, amgueddfa ac archif rhagorol ym mhob cwr o Gymru er mwyn gallu elwa ar yr hyn sydd ar gael. Mae marchnata yn chwarae rhan bwysig wrth annog pobl i ddefnyddio’r cyfleusterau hyn ac rwy’n falch ein bod yn cydnabod y gwaith cadarnhaol sy’n cael ei wneud ar draws y sector, er gwaethaf yr heriau.

“Bu safon y ceisiadau yng ngwobrau eleni yn ardderchog; mae’n bleser gweld cynifer o enghreifftiau o arferion da o fewn y sectorau hyn a syniadau arbennig o arloesol.”

Fe gafodd y rhai a oedd yn bresennol yn y digwyddiad yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru gyfle i glywed mwy am y ceisiadau buddugol, cwrdd â’r beirniad a chlywed siaradwyr gwadd yn siarad am gyfryngau cymdeithasol ac ymgysylltu â’r wasg.

Cafodd yr holl geisiadau eu beirniadu gan Jonathan Deacon, Athro mewn Marchnata ym Mhrifysgol De Cymru ac Ymddiriedolwr (cyn Gadeirydd) Sefydliad Marchnata Siartredig Cymru. Dywedodd Dr Deacon:

“Bûm yn beirniadu’r gwobrau hyn ers rhai blynyddoedd a rhaid dweud bod safon y ceisiadau, y syniadau arloesol a dyfeisgarwch y staff yn y tri sector yn dal i wneud argraff arnaf.  Fe geir llawer o enghreifftiau o ragoriaeth ym maes marchnata y gellid yn hawdd eu defnyddio mewn unrhyw fusnes neu sefydliad o fewn Cymru. 

“Roedd llawer o’r ceisiadau yn isel o safbwynt cyllideb ond yn uchel o ran creadigrwydd – gan brofi nad yw marchnata soffistigedig a llwyddiannus yn dibynnu ar gyllidebau mawr.”

Roedd yr enillwyr yn derbyn tlws, tystysgrif ac amryw o wobrau gan gynnwys gweithdai marchnata a chyfarpar arbenigol i’w galluogi i ddatblygu mwy ar eu sgiliau a gwella eu gweithgareddau marchnata.

Exit mobile version