Cawsom rywfaint o newyddion gwych yn ddiweddar bod ein cais i’r NMCT wedi cael ei dderbyn. Bydd y grant yn cynnwys glanhau, trwsio, ail-becynnu a sganio Siarteri Bwrdeistref Dinbych (BD/A).
Y Siarteri, a roddwyd i Fwrdeistref Dinbych, yw’r siarteri bwrdeistref hynaf sy’n goroesi yng Ngogledd Cymru. Maent yn darparu tystiolaeth brin o Gymru yn ystod y cyfnod canol oesoedd cynnar-canol, ac yn ffurfio cofnod cynhwysfawr o’i datblygiad yn dref ganoloesol pwysig o anheddiad ôl-goncwest Edwardaidd i weinyddiaeth â strwythur soffistigedig o dan Siarl II.
Mae’r casgliad yn cynnwys pum siarter a gyhoeddwyd gan frenhinoedd a deyrnasodd rhwng c. 1290 a 1662. Mae’r siarter gynharaf, a roddwyd gan Edward I i Henry de Lacy, wedi ei dyddio tua 1290 a hon yw ein unig ddogfen a ysgrifennwyd mewn Ffrangeg Normanaidd.
Roedd Siarteri Bwrdeistref yn ddogfennau trawiadol a gynlluniwyd i fod yn weledol ddeniadol. Mae’r casgliad yn cynrychioli’r gorau o’r math hwn yn ein casgliadau ac efallai yng Nghymru. Mae’r Siarteri’n cynnwys darluniau gwych o Harri VII a Harri VIII. Yn hytrach na arwyddo’r ddogfen, roedd sêl frenhinol ynghlwm i gadarnhau dilysrwydd. Mae sêl ynghlwm wrth bedwar o bum Siarter Dinbych.
Roedd siarteri yn ddogfennau pwysig a oedd yn amlinellu’r dyletswyddau a breintiau a roddwyd i’r dref a’r bwrdeisiaid (swyddogion bwrdeistref). Roedd y materion a drafodwyd mewn siarter bwrdeistref yn cynnwys hawliau i hunan-lywodraethu megis yr hawl i gynnal llysoedd, rheoleiddio marchnadoedd, adeiladu waliau tref ac ati.
Bydd arian grant NMCT yn golygu y bydd y dogfennau trawiadol hyn yn cael eu hatgyweirio a’u glanhau yn broffesiynol a bydd pecynnau pwrpasol yn cael ei wneud i amddiffyn y llawysgrif a’r seliau ynghlwm. Bydd y grant hefyd yn talu am gostau sganio arbenigol i alluogi ymchwilwyr i gael mynediad atynt ar-lein.
Dyma’n trydydd prosiect cadwraeth llwyddiannus a ariennir gan y NMCT yn y pum mlynedd diwethaf, gan gynnwys gwaith ar ein Albwm Rhyfel y Degwm a’n llyfrau Disgrifiad Troseddol.